23 Hydref 2015

Ymchwiliad y Pwyllgor i'r Bil Cymru Drafft

Mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi cytuno i gynnalymchwiliad i'r Bil Cymru drafft, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar 20 Hydref 2015.

Buasem yn ddiolchgar o gael eich sylwadau ar y Bil drafft drwy roi sylw i'r pwyntiau canlynol, sy'n ffurfio ein cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad:

Ystyried

- Y graddau y mae'r model cadw pwerau arfaethedig o gymhwysedd deddfwriaethol yn glir, yn gydlynol ac ymarferol, ac yn darparu fframwaith cryf i alluogi'r Cynulliad i ddeddfu o'i fewn.

- Y profion ar gyfer penderfynu ar gymhwysedd fel y nodir yn adran 3 ac Atodlenni 1 a 2 i'r Bil drafft.

- Y graddau y mae'r fframwaith newydd arfaethedig yn newid ehangder cymhwysedd y Cynulliad i ddeddfu.

- Y pwerau deddfwriaethol arfaethedig sydd ar gael mewn meysydd pwnc penodol o ganlyniad i Atodlenni 1 a 2 i'r Bil drafft.

- Y cynigion i'r Cynulliad gael pwerau dros ei weithrediad (er enghraifft, mewn cysylltiad â'i enw, nifer yr Aelodau Cynulliad a phwerau etholiadol ar gyfer y Cynulliad).

- Y pwerau ychwanegol i'w rhoi i Weinidogion Cymru, yn enwedig i wneud is-ddeddfwriaeth.

- Y cynigion a gynhwysir mewn perthynas â pharhauster y Cynulliad a Llywodraeth Cymru.

- Y cynigion a gynhwysir mewn perthynas â'r confensiwn ynghylch Senedd y DU yn deddfu ar faterion datganoledig.

- Goblygiadau'r Bil drafft ar gyfer cyfansoddiad y Deyrnas Unedig.

- Unrhyw fater arall sy'n ymwneud â'r pwerau deddfwriaethol sydd eu hangen ar y Cynulliad i ddeddfu'n effeithiol. 

Gwyddom fod y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig hefyd yn cynnal ymchwiliad ar y Bil. Er mwyn osgoi dyblygu, mae croeso ichi gyflwyno yr un dystiolaeth i ni ag yr ydych yn bwriadu ei chyflwyno (neu eisoes wedi'i chyflwyno) i'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig.

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Dylid anfon ymatebion, ar ffurf electronig neu gopi caled, i'r cyfeiriad isod, gan sicrhau eu bod yn cyrraedd erbyn dydd Gwener 20 Tachwedd 2015:

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Caerdydd
CF99 1NA
SeneddMCD@cynulliad.cymru

Rydym yn ymwybodol bod hon yn amserlen dynn iawn, ac os ydych yn rhagweld unrhyw anawsterau gyda'r terfyn amser hwn, cysylltwch â'r Tîm Clercio i drafod.

Datgelu gwybodaeth

Gellir gweld polisi'r Cynulliad ar ddatgelu gwybodaeth ar wefan y Cynulliad. Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor. Fel arall, mae croeso i chi gysylltu â'r Clercod ar y rhifau isod i ofyn am gopi caled o'r polisi hwn.

Os hoffech gael unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â Gareth Williams neu Naomi Stocks, ar 0300 200 6362 neu 0300 200 6222.

Yn gywir

DPO's Signature

David Melding AC

Cadeirydd

 

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu'n Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.